20 Gorffennaf 2017

Ken Skates AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet

Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18: Craffu yn ystod y flwyddyn ar gyllideb yr economi a'r seilwaith ar gyfer 2017-18

 

Ar 13 Gorffennaf 2017, cwestiynodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau chi fel rhan o'i waith craffu yn ystod y flwyddyn o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.

 

Rwy'n ysgrifennu atoch i dynnu eich sylw at nifer o faterion, yr ydym yn disgwyl dychwelyd atynt yn ystod ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yn ystod hydref 2017.

 

Blaenoriaethu a gwerth am arian

Ar ôl craffu ar Gyllideb Atodol gyntaf 2016-17 ym mis Gorffennaf 2016, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi “mwy o dystiolaeth sy'n nodi'r rhesymeg y tu ôl i ddyraniadau'r gyllideb yn y dyfodol, fel y cynllun rhyddhad ardrethi busnes, gan gynnwys manylion am yr effaith economaidd a ragwelir” er mwyn gallu mesur gwerth am arian. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nodi y bydd yn cyhoeddi naratif sy'n cynnwys asesiad o'r dystiolaeth orau sydd ar gael sydd wedi llywio ei chynlluniau gwariant ar lefel strategol. 

Yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yn ystod yr hydref y llynedd, gwnaethoch ddweud wrthym eich bod yn ystyried y sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau ar gyllidebau.  Trafodwyd hyn ymhellach yn y gwaith craffu ariannol yn ystod y flwyddyn.

Mae'r Pwyllgor yn cytuno, er mwyn i ni a'r cyhoedd yn ehangach asesu a yw'r blaenoriaethau a ddewiswyd yn rhesymol, ac a yw'r canlyniadau a ragwelir yn rhoi gwerth am yr arian cyhoeddus, mae'n hanfodol bod mwy o ymdrech yn cael ei roi i mewn i rannu'r ffordd o feddwl a'r dystiolaeth sy'n sail i benderfyniadau gwario y llywodraeth.

Cred y Pwyllgor fod angen gwneud mwy i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu manylion am y dystiolaeth a'r rhesymeg sy'n sail i ddyraniadau'r gyllideb, gan ddangos sut yr ydych wedi cryfhau sylfaen dystiolaeth eich adran ar gyfer gwneud penderfyniadau cyllidebol.

 

Er eich bod wedi rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor y rhoddir ystyriaeth lawn o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gweithdrefnau yn gadarn ac yn werth am arian, cred y Pwyllgor fod angen gwneud y sail dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau cyllidebol yn gyhoeddus ac yn eglur, yn enwedig yn ystod y gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft/gwaith craffu ariannol.

 

Cymorth busnes a chyllid

Cyhoeddwyd strategaeth economaidd bresennol Llywodraeth Cymru 'Adnewyddu'r Economi: Cyfeiriad Newydd' ym mis Gorffennaf 2010. Mae'r ddogfen yn pwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o ddarparu grantiau i fusnesau. Penderfynodd Llywodraeth Cymru fod angen iddi symud i ddiwylliant buddsoddi a chyhoeddodd yn y strategaeth y byddai'r holl gyllid y mae Adran yr Economi a Thrafnidiaeth yn ei ddarparu'n uniongyrchol yn ad-daladwy yn y dyfodol.

Roedd eich tystiolaeth ysgrifenedig yn rhoi dadansoddiad o fenthyciad a chyllid grant a dalwyd o gyllidebau 'Sectorau a Busnes' Llywodraeth Cymru ers 2011-12. Dangosodd y dystiolaeth dros y chwe blynedd ariannol llawn ers i'r strategaeth gael ei chyhoeddi, 2011-12 i 2016-17, dim ond 24 y cant o grant cyfalaf a chyllid benthyciad a dalwyd a gafodd ei ad-dalu. Nid oedd y balans sy'n weddill (76 y cant) yn ad-daladwy.

 

Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi eich bwriad i greu amgylchedd sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau a bod y rhaglen ar hyn o bryd yn bodloni neu'n rhagori ar ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor fod angen mwy o sicrwydd arni o ran y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn cyllid grant a benthyciad.

 

Hoffai'r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth am y cynnydd a wnaed wrth symud i 'ddiwylliant buddsoddi' ers cyhoeddi 'Adnewyddu'r Economi: Cyfeiriad Newydd', gan gynnwys y cyfraddau ariannu a'r amserlenni ar gyfer benthyciadau a grantiau cyfalaf ad-daladwy a heb fod yn ad-daladwy. Bydd y Pwyllgor yn archwilio hyn ymhellach yn ystod y gwaith o graffu ar y gyllideb yn ystod hydref 2017.

 

Cynlluniau seilwaith rheilffyrdd a ffyrdd: Effaith chwyddiant yn codi

Ar ôl craffu ar y gyllideb ddrafft ym mis Tachwedd 2016, fe wnaethom ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn tynnu sylw at dystiolaeth gan y Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol a oedd yn nodi bod y gyllideb ddrafft yn tybio chwyddiant o 2-3 y cant gyda rhagolygon yn awgrymu y gallai fod hyd at 4 y cant erbyn diwedd 2017. Mynegwyd pryderon gennym ynghylch yr effaith y gallai hyn ei chael ar brosiectau mawr fel ffordd liniaru'r M4 a Metro De Cymru.

 

Gofynnodd y Pwyllgor ichi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd unrhyw newidiadau i'r tybiaethau o ran chwyddiant yn y dyfodol yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddarparu prosiectau seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn 2017-18 a thu hwnt. 

Mewn ymateb, gwnaethoch ddweud bod chwyddiant, fel y mesurwyd gan Fynegai Prisiau Defnyddwyr, yn 2.9 y cant ar hyn o bryd, sef yr uchaf ers mis Mehefin 2013, ac yn uwch na tharged o 2 y cant Banc Lloegr.  Rydym yn ymwybodol bod chwyddiant adeiladu yn aml yn mynd yn uwch na'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr.

 

Yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb yn ystod y flwyddyn, gwnaethoch ddweud wrth y Pwyllgor y byddai chwyddiant yn cael ei gynnwys yn y gwaith cynllunio ariannol o brosiectau trafnidiaeth mawr gyda chyllidebau yn cael eu hail-galibro a'u cymeradwyo ar gamau allweddol o bob prosiect. Clywodd y Pwyllgor hefyd y bydd contractau adeiladu yn cynnwys lwfans i reoli newidiadau mewn chwyddiant, a bod dull y Llywodraeth, yn cynnwys Ymwneud Cynnar gan Gontractwr a defnyddio cyllidebau wedi'u capio ar gynlluniau megis y Metro, yn helpu i reoli'r mater hwn.

 

Roedd y Pwyllgor yn bryderus gydag ansicrwydd ariannol parhaus o ran effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r potensial ar gyfer amrywiadau pellach yn y gyfradd gyfnewid a chynnydd mewn chwyddiant, y byddai'n anodd i Lywodraeth Cymru warantu na fyddai'r cynnydd mewn chwyddiant ac ansefydlogrwydd economaidd pellach yn y dyfodol yn effeithio ar brosiectau seilwaith rheilffyrdd a ffyrdd hirdymor ac ar raddfa fawr. O ystyried maint y prosiectau hyn, ac felly graddfa bosibl y gorwario sy'n effeithio ar werth am arian a fforddiadwyedd, credwn ei bod yn hanfodol monitro effaith chwyddiant yn y blynyddoedd i ddod yn ofalus iawn.

Banc Datblygu i Gymru

 

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cynnwys £45.75 miliwn dros bedair blynedd er mwyn i'r Banc Datblygu i Gymru wella mynediad at gyllid ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n rheoli'r broses o drosglwyddo swyddogaethau rhwng Cyllid Cymru a'r Banc Datblygu i Gymru.

 

Nododd eich papur y bydd y Banc Datblygu yn mynd i'r afael â'r bwlch cyllido ar gyfer busnesau micro, busnesau bach a busnesau canolig yr amcangyfrifir ei fod yn tua £350 miliwn i £500 miliwn y flwyddyn yng Nghymru.

 

Yn ystod ein gwaith craffu yn ystod y flwyddyn o'ch cyllideb, gwnaethom ofyn ichi egluro maint y bwlch cyllido y bydd y Banc Datblygu yn ceisio mynd i'r afael ag ef a gofynnwyd am ragor o wybodaeth am p'un a fyddai'r banc yn ddarostyngedig i ofynion gwytnwch y sector bancio, megis cynnal cymarebau cyfalaf a throsoledd gofynnol.  Gwnaethoch ddweud na fyddai gofynion o'r fath yn gymwys i'r banc, ond y bydd y Pwyllgor yn parhau i geisio sicrwydd fod gan y banc gynlluniau cynaliadwy i ymdrin ag ergydion economaidd lle gall benthyciadau fod yn anodd eu cael.

 

Mae'r Pwyllgor wedi cymryd diddordeb cyson yn esblygiad Cyllid Cymru, ac mae'n bwriadu dychwelyd at y pwnc hwn unwaith y bydd y cynllun busnes ar gyfer y Banc Datblygu yn cael ei gyhoeddi. Byddwn yn archwilio hyn ymhellach yn ystod y gwaith o graffu ar y gyllideb yn ystod hydref 2017.

 

Cyllid ar gyfer Metro De Cymru ac ymrwymiad i seilwaith rheilffyrdd y Cymoedd

 

Yn 2014 ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyfrannu £125 miliwn tuag at gost trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.  Yn ystod ymchwiliad diweddar y Pwyllgor i fasnachfraint rheilffyrdd clywsom dystiolaeth gan yr Adran Drafnidiaeth a oedd yn awgrymu bod y cyllid hwn ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn dibynnu ar natur y cynnig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rheilffyrdd. 

 

Wrth ddarparu tystiolaeth i'r Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad i fasnachfraint rheilffyrdd a'r Metro, gwnaethoch amlinellu tri maes lle roedd angen cytundeb gan yr Adran Drafnidiaeth a Network Rail i gyflawni ei uchelgais ar gyfer y fasnachfraint a'r Metro. 

 

Wrth graffu ar y gyllideb yn ystod y flwyddyn, o ran y £125 miliwn, nododd eich tystiolaeth ysgrifenedig fod gennych ryddid llwyr i wneud y gorau o gwmpas terfynol y cynllun yn dilyn canllawiau Llyfr Gwyrdd er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian.  At hynny, clywsom er bod cynnydd yn cael ei wneud, mae'r un tri mater yn parhau i fod angen cytundeb gan Lywodraeth y DU a Network Rail, yn benodol bod cyflawni'r prosiect hwn yn dibynnu ar y canlynol:

 

-      Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r pwerau [caffael masnachfraint] ar amser ac fel y cytunwyd;

-      Llywodraeth y DU a Network Rail yn cytuno ar ein cynlluniau ar gyfer Llinellau'r Cymoedd; ac

-      yr Adran Drafnidiaeth yn cytuno ar drefniadau ariannol addas ar gyfer seilwaith Rheilffyrdd y Cymoedd.

 

Gwnaethoch hysbysu'r Pwyllgor fod y dyddiad targed ar gyfer lansio'r gystadleuaeth tendr ar 18 Awst 2017. Mae'r Pwyllgor yn pryderu os na fydd Llywodraeth Cymru yn cael eglurder ynghylch y materion sy'n weddill erbyn i'r fanyleb gael ei rhannu gyda chynigwyr, y gallai leihau gwerth am arian yn yr ymarfer caffael naill ai drwy ansicrwydd yn arwain at gynigwyr yn cynnwys premiwm risg yn eu ceisiadau, neu drwy ohirio ymarfer tendro a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Gorffennaf ymhellach.

 

Hoffai'r Pwyllgor gael diweddariadau rheolaidd gennych ar y cynnydd a wneir ar gyrraedd cytundeb ar y materion sy'n weddill, a datblygiad y fasnachfraint rheilffyrdd a seilwaith Rheilffyrdd y Cymoedd.

 

Cododd ein trafodaeth nifer o faterion penodol eraill, y byddwn yn eu codi ac yn eu monitro gyda'r Gweinidogion perthnasol yn ein gwaith craffu rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.

 

Yn gywir

 

Russell George AC

Cadeirydd

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

 

cc. Simon Thomas AC, Cadeirydd, Y Pwyllgor Cyllid